Search

Gweithdai Fideo

Rydym wrth ein boddau i allu dod â gweithgareddau ar-lein trwy garedigrwydd ein hartistiaid talentog lleol.  Os ydych yn cymryd rhan ar un o’r rhain rhowch wybod i ni, hoffwn eu gweld!

Mae rhain ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd, ond rydym wrthi’n gweithio ar greu isdeitlau Cymraeg.

Ewch i Fideo:

Pypedwaith Plastig gyda Jo Munton!

#CaradArtistOfTheMonth mis Gorffennaf, gyda’r anghymarol Jo Munton o Vabagoni Puppets, sy’n rhoi arddangosiad brwd o bypedau anhygoel sydd wedi’u huwchgylchu o blastig.  O ddiddordeb i unrhyw un sydd eisiau gweld y potensial mewn pethau a fyddai’n cael eu diystyru fel arfer, grym creadigol yng ngwyneb distryw byd-eang, a’r llawenydd pur o blastig!

Peintio Blodau yn Hamddenol gyda Jill Crowther!

Mae’r arlunydd lled leol, #CaradArtistOfTheMonth ar gyfer mis Mehefin, Jill Crowther, wedi gwneud fideo ymlaciol o beintio blodau – beth am gasglu blodau a’u paentio ar y cyd â hi wrth iddi ddefnyddio paentiau, inciau a gel addurniedig i greu gellysg mynegiannol, breuddwydiol.  Dull didaro i waith gorffenedig, ymlaciol.

Paentiadau Natur gyda Lucy Burden!

Mae’r arlunydd lleol Lucy Burden, #CaradArtistOfTheMonth mis Mai 2021, yn mynd â ni ar daith i ddarganfod ysbrydoliaeth o’r wlad o’n cwmpas.  Dilynwch hi ar ei thaith gerdded i weld pa dechnegau mae hi’n defnyddio i wneud ei gweithiau celf nodedig.

Cardiau Post Clwtwaith Papur gyda Jane Titley!

#CaradArtistOfTheMonth am fis Ebrill 2021, mae’r Jane Titley llawen yn dangos i ni dechneg wych ar gyfer gwneud cardiau post allan o brintiau a phaentiadau wedi’u hysbrydoli gan natur a deunydd wedi’i ail gylchu.  Mynnwch gipolwg ar ei gwefan!

Darluniau Lliniarol i’ch Ysbrydoli gyda Meltem Arikan!

Arlunydd lleol, dramodydd, nofelydd, bardd ac anghydffurfiwr gwleidyddol, mae Meltem Arikan, #CaradArtistOfTheMonth am fi Mawrth 2021, wedi gwneud gweithdy rhyfeddol ar ddarluniau myfyriol, ysbrydoledig – wedi’i gynllunio er mwyn eich canoli ar yr hyn sydd angen arnoch a’ch ysbrydoli i’w wireddu.

Gwneud Mandalas gyda Jane Mason!

Artist lleol ac un o rymoedd natur, mae Jane Mason #CaradArtistOfTheMonth am fis Chwefror 2021, yn ein harwain trwy dechnegau i ddatblygu ein mandalas hyfryd ein hunain.

Gwallgofrwydd Madarch! Printiau Sborau Artistig

Ambell i awgrym a gwybodaeth sylfaenol ar sut i greu print sborau madarch hyfryd!

Monoprintio gyda JELI!

Dysgwch sut i greu monoprintiau syml a hwylus HEB offer – dim ond paent, rholer (neu frwsh!) a phecyn o JELI!  

This website uses cookies to ensure you get the best experience.

You can view which ones and what they do by clicking this button.