Search

Clwb Ffilmiau

Mae gennym archif o hanesion lleol – ffilmiau sydd wedi’u rhoi i ni, a’u creu gennym ni.  Rydym eisiau dod â nhw i’ch YSTAFELL FYW CHI.  Felly ymunwch â ni ar ddiwrnod olaf y mis, bob mis, i weld hanesion lleol: fideos cartref, digwyddiadau’r gorffennol, eich perthnasau a ffrindiau a’u perthnasau a’u ffrindiau nhw, cyfredol ac yn mynd yn ôl 50 mlynedd – a phellach!

Digwyddiad Nesaf: Mr Chitty: Pennod 2

6pm 31ain Gorffennaf

 
Ar y 31ain o Orffennaf rydym yn cyflwyno rhifyn arbennig: Mr Chitty, a oedd fel plentyn yn byw ym Mhentref Elan a oedd, ar y pryd, yn bentref newydd. Mae’n hel atgofion am y profiad hwnnw. Fe’i recordiwyd nifer o flynyddoedd yn ôl yn ei henaint, ac rydym yn ddiolchgar dros ben bod y ffilm wedi goroesi ac y gallwn ei dangos i chi.
 
Mae ei gwylio’n hawdd. Nid oes angen arwyddo i mewn nac i lawrlwytho unrhyw beth – dim ond gwasgu’r botwm sy’n dweud “watch now” ar dudalen ein clwb ffilmiau ar ein gwefan ac fe ddangosir y ffilm i chi gyda phawb arall sy’n gwylio, fel yn y sinema, er eich bod chi adref o flaen eich cyfrifiadur. Mae hefyd nodwedd sgwrsio fel y gallwch siarad â gweddill y gynulleidfa am yr hyn yr ydych yn ei weld hefyd.
 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sut i wylio neu i ymuno, neu am y ffilmiau eu hunain, anfonwch neges neu e-bost at project@carad.org.uk.  Gobeithiwn eich gweld yno!

This website uses cookies to ensure you get the best experience.

You can view which ones and what they do by clicking this button.